pic

GWNEUD GWAHANIAETH

Gafael Llaw

Diolch


image image image

Diolch yn fawr i bawb ohonoch - roddwyr a chodwyr arian, unigolion a busnesau - sy’n rhoi eich amser a’ch egni i’n cefnogi. Diolch hefyd i’r holl wirfoddolwyr sy’n helpu i drefnu digwyddiadau a chodi arian. Mae eich cefnogaeth wirioneddol yn gwneud gwahaniaeth i fywydau plant, bobl ifanc a theuluoedd o Wynedd a Môn sy’n dioddef o gancr.

Mae nifer o fusnesau wedi ein cefnogi dros y ddwy flynedd ddiwethaf; diolch yn arbennig i Dafydd Hardy, Travis Perkins and O J Jones & Sons am eich holl gefnogaeth.

Cyfraniadau haf / hydref 2017

  • Casglwyd £3000 ar gyfer yr elusen gan griw Ras Llandegfan gafodd ei gynnal yn yr haf.
  • Cynhaliwyd ein digwyddiad Cerdded dan y Lloer ym mis Medi a casglwyd £2000 ar gyfer yr elusen. Diolch arbennig i Gwenda Williams o Eglwys Bach a gasglodd £400 mewn arian noddi.
  • Diolch i Tim o Always Aim High am eich cefnogaeth barhaus i Gafael Llaw. Cafodd noson o adloniant ei drefu yn Llandudno a casglwyd bron i £450.
  • Mae criw Santander Caernarfon hefyd wedi bod yn brysur yn casglu arian. Cyflwynwyd siec o £2300 i Gafael Llaw dros yr haf.
  • Diolch yn fawr i Trevor o Plas Garnedd am drefnu diwrnod golf yn Henllys - casglwyd £2000 ar gyfer Gafael Llaw.
  • Rhoddwyd £1500 i Gafael Llaw er cof am y diweddar Gwyneth Pritchard, Porthmadog. Diolch yn fawr i’r teulu.

Cyfraniadau Gwanwyn 2017

  • £500 gan deulu Bethan Thomas o Waunfawr er cof am eu mam, Mrs Martha Parry (Muriau Park)

Cyfraniadau Hydref 2015

  • £100 Ysgol Feithrin Llanwnda
  • £212 Côr Meibion Caernarfon
  • £00 Clwb Merched Caeathro
  • £300 Cymdeithas Cymry Lerpwl
  • £200 Capel y Drindod Pwllheli

Diolch o galon am eich cefnogaeth.

Cefnogi Alder Hey


Un o’r elusennau mae Gafael Llaw yn ei gefnogi yw Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl, ble mae nifer o blant o Wynedd a Môn yn mynd i dderbyn triniaeth.

Mae cyfraniad o £20,000 wedi cael ei roi i’r ward oncoleg yn yr ysbyty er mwyn gallu ariannu dwy ystafell arbennig yn yr ysbyty newydd. Mae enw Gafael Llaw i’w gweld ar yr ystafelloedd hyn.

Yn 2023 cafodd 45K ei roi i’r ysbyty i greu’r ystafell arbennig sy’n tynnu sylw’r plant pan yn derbyn triniaeth ar y ward oncoleg.

Rydym hefyd yn ddiweddar wedi rhoi rhodd o lyfrau Cymraeg ar gyfer cornel ddarllen yn llyfrgell yr Uned Oncoleg a Haematoleg fel bod plant o ogledd Cymru yn gallu mwynhau darllen llyfrau Cymraeg wrth dderbyn triniaeth yn yr ysbyty.

image image image

Dyddiau hwyl


Mae Gafael Llaw yn trefnu, cefnogi a chyfrannu at ddiwrnodau allan hwyliog i blant hefo cancr a’u teuluoedd.

Yn y gorffennol maent wedi ymweld â’r sŵ, panto, Greenwood Forest Park ac wedi cael taith ar gwch ar hyd y Fenai.

image image image
image image image
image image image

Gwelliannau Ward Dewi


Mae swm sylweddol o’r arian sydd wedi cael ei gasglu gan Gafael Llaw yn cael ei wario ar wneud gwelliannau i Ward Dewi (ward y plant) Ysbyty Gwynedd.

Mae £20,000 wedi cael ei fuddsoddi yn y cae chwarae, sydd wedi cael ei drawsnewid yn ardal chwarae lliwgar, deiniadol a chyffrous ar gyfer y plant. Mae Gafael Llaw hefyd wedi ariannu addurno a soffas newydd i’r ystafell dawel ar y ward.

Mae’r arian hefyd yn cael ei wario ar welliannau gweledol. Comisiynwyd yr artist Gary Drew i addurno waliau’r ward.

Mae plant y ward a’u teuluoedd yn aml yn mynd ar dripiau Gafael Llaw, sy’n rhoi’r cyfle iddyn nhw ymlacio a mwynhau diwrnod o’r ward.

Dywedodd Eleri Fôn:

“Fe dywynnodd yr haul drwy’r prynhawn a fe gawsom ddiwrnod bendigedig. Diolch o waelod calon am yr oll rydych yn ei wneud i roi cymorth i ni.”

— Prif weinyddes nyrsio Ward Dewi, Eleri Fôn
image image image

Gwaith peintio Ward Dewi 2017


Mae eich arian chi wedi cael ei ddefnyddio i drawsnewid waliau Ward y Plant ysbyty Gwynedd. Cafodd yr alunydd talentog Gary Drew ei gomisiynu i wneud y darluniau bendigedig ac mae edrychiad y ward wedi altro gymaint, gyda’r plant wrth eu boddau gyda’r delweddau.

Diolch I Gafael Llaw am gefnogi ni ar Ward Y Plant unwaith eto. Mae arian a chefnogaeth gan yr elusen wedi ariannu ni I baentio waliau ward Dewi. Diolch I Gary Drew am gwblhau’r gwaith.

— Carina Roberts o Ward y Plant, Ysbyty Gwynedd
image image image
image image image